Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac rydym wedi ymrwymo i ddathlu’r Gymraeg yn nyluniadau a dulliau cyfathrebu ein cleientiaid cymaint â phosibl. Er nad ydym yn rhugl, rydym yn dysgu, felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn gwneud ein gorau i sgwrsio â chi gystal â phosibl.
Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cymraeg Byd Busnes, ynghyd â chyfieithwyr Cymraeg sy’n aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef y corff cenedlaethol sy’n arwain, yn datblygu ac yn hyrwyddo’r proffesiwn yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod ein deunydd marchnata a’n gwaith dylunio graffig dwyieithog yr un mor ddiddorol a chywir yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Os hoffech weld enghreifftiau o waith blaenorol, cysylltwch â ni a byddwn yn falch o’u dangos i chi.
Mae ein gwasanaethau creadigol yn cynnwys y canlynol:
Dylunio graffig
Dylunio gwefan
Dylunio logo a brandio
Dylunio print
Hysbysebu
Dylunio rhyngwyneb defnyddiwr
Dylunio arddangosfa
Marchnata creadigol
Rydym yn asiantaeth ddylunio greadigol, fach sy’n gwneud gwaith dylunio graffig a dylunio gwefan effeithiol ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau sy’n tyfu a sefydliadau mawr.
Rydym yn gwasanaethu ardaloedd ledled De Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Penarth, y Bont-faen, Bro Morgannwg ac ardaloedd cyfagos.
Os oes gennych brosiect yr hoffech ei drafod â ni, yna cysylltwch â ni ac fe ddown atoch a chynnal ymgynghoriad am ddim gyda chi.